Eseia 4:3-6 beibl.net 2015 (BNET)

3. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Seion,ac wedi eu gadael yn Jerwsalemyn cael eu galw'n sanctaidd –pawb sydd wedi eu cofnodi i fyw yn Jerwsalem.

4. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi glanhaubudreddi merched Seion,bydd yn cael gwared ag euogrwydd Jerwsalem –trwy farnu a charthu.

5. Bydd yr ARGLWYDD yn dod â chwmwl yn y dydda thân yn llosgi yn y nos,a'i osod uwchben y cysegr a'r man cyfarfod ar Fynydd Seion.Yn wir, bydd ei ysblander yn hongian fel canopi dros bopeth.

6. Bydd fel caban i gysgodi rhag y gwres yn ystod y dydd,ac yn lloches i gysgodi rhag y storm o law.

Eseia 4