Eseia 30:14-23 beibl.net 2015 (BNET)

14. Bydd yn torri'n ddarnau,fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion –bydd wedi darfod.Fydd dim un darn yn ddigon o fainti godi marwor o badell dân,neu wagio dŵr o bwll.

15. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud:“Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub;Wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.”Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.

16. “Na,” meddech chi.“Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” –a dyna wnewch chi.“Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” –ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!

17. Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc;pump yn bygwth a pawb yn dianc.Bydd cyn lleied ar ôl byddan nhw felpolyn fflag ar ben bryn,neu faner ar ben mynydd.

18. Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi;bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn;ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!

19. Wir i chi bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.

20. Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain.

21. Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!”

22. Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi eu gorchuddio ag arian, a'r delwau metel gydag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud “Budreddi!”

23. Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi ei hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny,

Eseia 30