5. Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr.Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio –syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch.
6. Mae'n cael ei sathru dan draed –traed y rhai anghenus,a sodlau y rhai tlawd.
7. Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn;rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.
8. Dŷn ni'n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn;cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni.
9. Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon,mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer;achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad,maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.
10. Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi,dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn.Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest –dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD.