1. Neges am ‛Ddyffryn y Weledigaeth‛:Beth sy'n digwydd yma?Pam mae pawb wedi mynd i ben y toeau?
2. Roeddet ti mor llawn bwrlwm –yn ddinas mor swnllyd!yn dre llawn miri!Nid cleddyf wnaeth ladd dy feirwon,na'r frwydr chwaith.
3. Rhedodd dy arweinwyr i ffwrdd,ond eu dal heb fwasaethwyr.Cafodd pawb oedd wedi eu gadael ar ôleu carcharu gyda'r rhai wnaeth ddianc yn bell.
4. Dyna pam dw i'n dweud,“Gadewch lonydd i mi!gadewch i mi wylo'n chwerw.Peidiwch boddran ceisio fy nghysuroam fod fy mhobl druan wedi eu dinistrio.”
5. Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch –yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio,a pobl yn gweiddi ar y mynydd.
6. Mae Elam wedi codi'r gawell saethau,gyda'i marchogion a'i cherbydau,ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tariannau.