12. Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di?Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deallbeth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft.
13. Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid,ac arweinwyr Memffis wedi eu twyllo;Mae penaethiaid ei llwythauwedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn.
14. Mae'r ARGLWYDD wedi ei chymysgu a'i drysu,a gwneud iddi faglu dros bobman,fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog.
15. All neb wneud dim i helpu'r Aifft –pen na chynffon,cangen balmwydd na brwynen.
16. Bryd hynny bydd yr Eifftiaid yn wan fel merched. Byddan nhw'n crynu mewn ofn am fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn codi ei law i'w taro nhw.