Eseia 18:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwae wlad yr adenydd chwimwrth afonydd dwyrain Affrica!Mae'n anfon negeswyr dros y môr,mewn cychod brwyn ar wyneb y dŵr.

2. Ewch, negeswyr cyflym,at genedl o bobl dal gyda chroen llyfn –pobl sy'n cael eu hofni ym mhobman;cenedl gref sy'n hoffi ymladd,sydd â'i thir wedi ei rannu gan afonydd.

3. “Gwrandwch bawb drwy'r byd i gyd;pawb sy'n byw ar y ddaear:Byddwch yn ei weld!– fel baner ar ben y bryniau.Byddwch yn ei glywed!– fel sŵn y corn hwrdd yn cael ei chwythu!”

4. Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i:“Dw i'n mynd i aros yn llonydd ac edrych o'm lle –fel tes yr haul yn tywynnu,neu gwmwl gwlith yng ngwres y cynhaeaf.”

Eseia 18