Eseia 16:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae'r ffrwyth ar gaeau teras Cheshbona gwinllannoedd Sibma wedi gwywo.Mae'r rhai sy'n rheoli'r cenhedloeddwedi torri eu gwinwydd gorau.Roedden nhw'n cyrraedd hyd at Iaser,ac yn ymestyn i'r anialwch;roedd eu brigau wedi ymleduac yn cyrraedd at y môr.

9. Felly dw i'n wylo gyda Iaserdros winwydd Sibma.Gwlychaf di â'm dagrauCheshbon ac Eleale,am fod y gweiddi llawenam ffrwythau aeddfed dy gynhaeafwedi dod i ben.

10. Mae'r miri a'r hwylwedi ei ysgubo i ffwrdd o'r gerddi.Does dim canu na sŵn dathlui'w glywed yn y gwinllannoedd.Does neb yn sathru'r grawnwini'r cafnau –mae'r bwrlwm wedi tewi.

11. Felly mae fy mol yn murmur dros Moab fel tannau telyn,a'r cwbl sydd yno i dros Cir-cheres.

12. Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol,ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr,fydd dim byd yn tycio.

13. Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen.

14. Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: Mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.

Eseia 16