12. Pan mae pobl Moab yn mynd at yr allor leol,ac yn gweddïo'n daer yn y cysegr,fydd dim byd yn tycio.
13. Dyna'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Moab o'r blaen.
14. Ond mae'r ARGLWYDD yn dweud nawr: Mewn tair blynedd union bydd poblogaeth anferth Moab yn crebachu. Fydd dim hyd yn oed llond dwrn ar ôl – neb o bwys.