Eseia 14:15-26 beibl.net 2015 (BNET)

15. O'r fath gwymp! –Rwyt wedi dod i lawr i fyd y meirw,i'r lle dyfnaf yn y Pwll!

16. Mae pobl yn dy weld ac yn syllu arnat,ac yn pendroni:“Ai hwn ydy'r dynwnaeth i'r ddaear grynu,a dychryn teyrnasoedd?

17. Ai fe ydy'r un drodd y byd yn anialwch,a dinistrio'i ddinasoedd –heb fyth ryddhau ei garcharorion i fynd adre?”’

18. Mae brenhinoedd y gwledydd i gyd– pob un ohonyn nhw –yn gorwedd yn grand yn eu beddau eu hunain.

19. Ond ti? – cest ti dy adael heb dy gladdu,yn ffiaidd, fel ffetws wedi ei erthylu.Fel corff marw yn y dillad a wisgaipan gafodd ei drywanu gan y cleddyf.Fel y rhai sy'n syrthio i waelod y pwll,neu gorff yn cael ei sathru dan draed.

20. Gei di ddim angladd fel brenhinoedd eraill,am dy fod ti wedi dinistrio dy wlad dy huna lladd dy bobl dy hun.Boed i neb byth eto gofio'rfath hil o bobl ddrwg!

21. Paratowch floc i ddienyddio ei feibiono achos drygioni eu tad.Peidiwch gadael iddyn nhw godi i feddiannu'r tira llenwi'r byd gyda'i dinasoedd!”

22. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Bydda i'n codi yn eu herbyn nhw.Bydda i'n dileu pob enw o Babilon,a lladd phawb sy'n dal ar ôl yno,eu plant a'u disgynyddion i gyd.

23. Bydda i'n llenwi'r wlad â draenogoda'i throi'n gors o byllau dŵr mwdlyd.Bydda i'n ei hysgubo i ffwrdd hefo brwsh dinistr,”—yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.

24. Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus wedi tyngu llw:“Bydd popeth yn digwydd yn union fel dwedais i;bydd fy nghynlluniau yn dod yn wir.

25. Bydda i'n dryllio grym Asyria yn fy nhir,ac yn ei sathru ar fy mryniau.Bydd ei iau yn cael ei dynnu oddi arnyn nhw,a'r baich trwm yn disgyn oddi ar eu cefnau.

26. Dyna'r cynllun sydd gen iar gyfer y ddaear gyfan.Dyna pam mae fy llaw yn barodi ddelio gyda'r cenhedloedd i gyd.”

Eseia 14