2. Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin, bydd Asher.
3. Wedyn Nafftali, i'r de o Asher.
4. Wedyn Manasse.
5. Wedyn Effraim.
6. Wedyn Reuben.
7. Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin.
8. “Yna'n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy'n wyth milltir o led, a'r un hyd â tiroedd y llwythau o'r dwyrain i'r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol.
9. Bydd y tir sydd wedi ei gysegru a'i neilltuo i'r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a tair milltir a chwarter o led.
10. Bydd y tir yma sydd wedi ei gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o'r gogledd i'r de, a tair milltir a hanner o'r dwyrain i'r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol.