Eseciel 44:3-11 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dim ond pennaeth y wlad sydd i gael eistedd yn y fynedfa i fwyta o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yn mynd i mewn drwy'r cyntedd ochr ac yn mynd allan yr un ffordd.”

4. Yna aeth y dyn â fi i'r iard fewnol drwy'r giât sy'n wynebu'r gogledd o flaen y deml. Wrth i mi edrych, ron i'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml a dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr.

5. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr ARGLWYDD. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr.

6. Dywed wrth y rebeliaid, pobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Mae'r holl bethau ffiaidd yma wedi mynd yn rhy bell!

7. Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd piau fi – sef y brasder a'r gwaed – iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma.

8. Dych chi ddim wedi cadw'r rheolau wrth drin y pethau sanctaidd; dych chi wedi gadael i baganiaid edrych ar ôl y lle yma!

9. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto.

10. “‘Bydd y Lefiaid wnaeth droi cefn arna i a mynd ar ôl eilunod, fel pawb arall yn Israel, yn cael eu dal yn gyfrifol am eu pechod.

11. Byddan nhw'n gweithio yn y cysegr ond dim ond fel dynion diogelwch. Nhw hefyd fydd yn lladd yr anifeiliaid sydd i'w llosgi, a'r aberthau, yn lle'r bobl eu hunain. Byddan nhw fel gweision i'r bobl.

Eseciel 44