7. dw i'n mynd i'ch taro chi'n galed! Dw i'n mynd i adael i'r cenhedloedd eich cymryd chi. Byddwch chi'n peidio bod yn genedl. Dw i'n mynd i'ch dinistrio chi'n llwyr. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”
8. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae Moab a Seir yn honni fod pobl Jwda ddim gwahanol i neb arall!
9. Felly dyma dw i'n mynd i'w wneud iddyn nhw: dw i'n mynd i agor ffin ddwyreiniol Moab a dinistrio'r trefi hyfryd sydd yno – Beth-ieshimoth, Baal-meon a Ciriathaim.
10. Dw i'n mynd i roi eich tir a'ch pobl yn nwylo'r llwythau o'r dwyrain. Bydd Ammon yn peidio bod yn genedl.
11. A dw i'n mynd i farnu Moab hefyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!’”
12. “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Mae pobl Edom yn euog. Am eu bod wedi dal ati i ddial mor gas ar Jwda, maen nhw'n euog.’
13. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i daro Edom yn galed, a lladd pawb sy'n byw yno, pobl ac anifeiliaid. Bydd y wlad yn anialwch diffaith. Bydd pawb yn cael eu lladd yn y rhyfel, yr holl ffordd o Teman i Dedan yn y de.