Eseciel 23:36-43 beibl.net 2015 (BNET)

36. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, Wyt ti'n barod i gyhoeddi'r farn ar Ohola ac Oholiba? Dywed wrthyn nhw mor ffiaidd maen nhw wedi bod!

37. Maen nhw wedi godinebu a thywallt gwaed. Maen nhw wedi godinebu drwy addoli eilun-dduwiau, a thywallt gwaed eu plant drwy eu llosgi'n aberth.

38. Ar ben y cwbl maen nhw wedi halogi'r cysegr a diystyru'r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw.

39. Yr un diwrnod ac roedden nhw'n lladd eu meibion i'r eilun-dduwiau, roedden nhw'n dod i mewn i'r deml i addoli! Halogi'r cysegr, fy nhŷ i!

40. “Ac wedyn roedden nhw'n anfon negeswyr i wlad bell i ofyn am help. A beth wnest ti pan wnaeth y rheiny gyrraedd? Cael bath, rhoi colur ar dy lygaid, a gwisgo dy dlysau.

41. Wedyn gorwedd yn ôl ar soffa grand, a bwrdd llawn o'i blaen gydag arogldarth ac olew arno – fy rhai i!

42. Roedd sŵn tyrfa o bobl yn diota a chael amser da gyda ti – dynion o bob man, hyd yn oed Sabeaid o'r anialwch. Roedden nhw'n rhoi breichledau i'r chwiorydd, a tiaras hardd i'w gwisgo ar eu pennau.

43. “A dyma fi'n dweud, ‘Os ydyn nhw wir eisiau putain fel hon sydd wedi hen ddarfod amdani, cân nhw gario ymlaen!’

Eseciel 23