Eseciel 16:42-49 beibl.net 2015 (BNET)

42. “‘Ar ôl gwneud hynny bydda i'n gallu ymatal, a gadael llonydd i ti. Bydda i'n gallu bod yn dawel. Fydd dim rhaid gwylltio ddim mwy.

43. “‘Am dy fod wedi anghofio'r dyddiau cynnar hynny, ac wedi fy ngwylltio i'n lân drwy ymddwyn fel gwnest ti, dw i'n mynd i dalu yn ôl i ti,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.“‘Ti wedi ymddwyn yn hollol ffiaidd, a hynny ar ben yr holl bethau anweddus eraill ti wedi eu gwneud!

44. Y dywediad mae pobl yn ei ddefnyddio wrth sôn amdanat ti, ydy: “Fel y fam y bydd y ferch.”

45. Ti'n union fel dy fam! Roedd hithau'n casáu ei gŵr a'i phlant. Ac roedd dy chwiorydd yr un fath. Hethiad oedd eich mam chi, ac Amoriad oedd eich tad!

46. Dy chwaer fawr di oedd Samaria, yn byw i'r gogledd gyda'i merched. A dy chwaer fach di oedd Sodom, yn byw i'r de gyda'i merched hithau.

47. Ti wedi ymddwyn yr un fath â nhw, ac wedi copïo eu harferion ffiaidd nhw. Yn wir, mewn byr o dro rwyt ti wedi mynd lot gwaeth na nhw!

48. “‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘doedd dy chwaer Sodom a'i merched ddim yn ymddwyn mor ddrwg ag wyt ti a dy ferched wedi gwneud!

49. Drwg dy chwaer Sodom oedd ei bod hi'n mwynhau byw'n foethus, yn gorfwyta, yn gwbl ddi-hid ac yn gwneud dim i helpu pobl dlawd oedd mewn angen.

Eseciel 16