Eseciel 16:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. “‘Ond aeth y cwbl i dy ben di. Dyma ti'n defnyddio dy enwogrwydd i ddechrau cysgu o gwmpas. Roeddet ti fel putain yn cynnig dy gorff i bwy bynnag oedd yn pasio heibio. Gallai unrhyw un dy gael di.

16. Roeddet ti'n defnyddio dy ddillad hardd i addurno allorau paganaidd, ac yn gorwedd yno i buteinio! Mae'r peth yn anhygoel!

17. A dyma ti'n cymryd dy dlysau hardd o aur ac arian i wneud delwau gwrywaidd anweddus a'u haddoli nhw yn fy lle i.

18. Wedyn cymryd y defnydd wedi ei frodio i'w haddurno nhw, a chyflwyno fy olew a'm harogldarth i iddyn nhw.

19. Roeddet ti hyd yn oed yn offrymu iddyn nhw y bwyd roeddwn i wedi ei roi i ti – bwyd hyfryd oedd wedi ei baratoi gyda blawd mân, mêl ac olew. Ie, dyna'n union ddigwyddodd!’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

20. “‘Roeddet ti hyd yn oed yn aberthu dy blant, yn fechgyn a merched, fel bwyd i dy eilun-dduwiau! Oedd dy buteindra ddim yn ddigon?

21. Oedd rhaid i ti ladd fy mhlant i hefyd, a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau paganaidd?

22. Ac yng nghanol y puteinio a'r holl bethau ffiaidd yma roeddet ti'n eu gwneud, wnest ti ddim meddwl am funud beth oedd wedi digwydd pan oeddet ti'n fabi bach newydd dy eni, yn gorwedd yn dy waed yn noeth ac yn cicio.

23. “‘Gwae ti!’ Dyna ydy neges y Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Ar ben yr holl ddrwg yma

24. ti wedi codi stondin a phabell i ti dy hun ar bob stryd!

Eseciel 16