Eseciel 14:7-10 beibl.net 2015 (BNET)

7. Os ydy unrhyw un yn Israel (hyd yn oed mewnfudwyr sy'n byw yn y wlad) yn troi cefn arna i, mynd ar ôl eilunod a rhoi sylw i bethau sy'n gwneud iddyn nhw bechu, ac wedyn yn mynd at broffwyd i geisio arweiniad, bydda i, yr ARGLWYDD, yn rhoi iddyn nhw'r ateb maen nhw'n ei haeddu!

8. Bydda i'n troi yn erbyn pobl felly, ac yn eu gwneud nhw'n destun sbort. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw, ac yn eu torri nhw i ffwrdd o gymdeithas fy mhobl. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

9. “‘A pan fydd proffwyd yn cael ei dwyllo i roi neges sydd ddim yn wir, bydda i, yr ARGLWYDD, yn gwneud ffŵl ohono. Bydda i'n ei daro a'i daflu allan o gymdeithas pobl Israel.

10. Bydd y ddau ohonyn nhw'n cael eu cosbi am eu pechod – y proffwyd, a'r un oedd wedi mynd ato i ofyn am arweiniad.

Eseciel 14