Diarhebion 8:7-23 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dw i bob amser yn dweud y gwir;mae'n gas gen i gelwydd.

8. Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn,does dim twyll, dim celwydd.

9. Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall,ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.

10. Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian;ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.”

11. Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr;does dim byd tebyg iddi.

12. “Dw i, Doethineb, yn byw gyda callineb;fi sy'n dangos y ffordd iawn i bobl.

13. Mae parchu'r ARGLWYDD yn golygu casáu'r drwg.Dw i'n casáu balchder snobyddlyd,pob ymddygiad drwg a thwyll.

14. Fi sy'n rhoi cyngor doeth,fi ydy'r ffordd orau a fi sy'n rhoi cryfder.

15. Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu,ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn.

16. Dw i'n galluogi arweinwyr i reoli,a pobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn.

17. Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i,ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael.

18. Dw i'n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl,cyfoeth sy'n para, a thegwch.

19. Mae fy ffrwyth i yn well nag aur, ie, aur coeth,a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau.

20. Dw i'n dangos y ffordd i fyw'n gyfiawn,a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg.

21. Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu;ac yn llenwi eu trysordai nhw.

22. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni icyn iddo wneud dim byd arall.

23. Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl,ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli.

Diarhebion 8