Diarhebion 6:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog!

12. Dydy'r un sy'n mynd o gwmpas yn twyllo,yn ddim byd ond cnaf drwg!

13. Mae'n wincio ar bobl drwy'r adeg,mae ei draed yn aflonydd,ac mae'n pwyntio bys at bawb.

14. Ei unig fwriad ydy creu helynt!Mae o hyd eisiau dechrau ffrae.

15. Bydd trychineb annisgwyl yn ei daro!Yn sydyn bydd yn torri, a fydd dim gwella arno!

16. Dyma chwe peth mae'r ARGLWYDD yn eu casáu;ac un arall sy'n ffiaidd ganddo:

17. llygaid balch, tafod celwyddog,dwylo sy'n tywallt gwaed pobl ddiniwed,

18. calon sy'n cynllwynio drwg,traed sy'n brysio i wneud drwg,

19. tyst sy'n dweud celwydd,a rhywun sy'n dechrau ffrae mewn teulu.

20. Fy mab, gwna beth orchmynodd dy dad i ti;paid troi dy gefn ar beth ddysgodd dy fam i ti.

21. Cadw nhw ar flaen dy feddwl bob amser;gwisga nhw fel cadwyn am dy wddf.

22. Ble bynnag fyddi di'n mynd, byddan nhw'n dy arwain di;pan fyddi'n gorwedd i orffwys, byddan nhw'n edrych ar dy ôl di;pan fyddi di'n deffro, byddan nhw'n rhoi cyngor i ti.

Diarhebion 6