Diarhebion 23:11-25 beibl.net 2015 (BNET)

11. mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf,a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di.

12. Penderfyna dy fod eisiau dysgua gwrando ar eiriau doeth.

13. Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn;dydy gwialen ddim yn mynd i'w ladd e.

14. Defnyddia'r wialena byddi'n achub ei fywyd.

15. Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth,bydda i'n hapus iawn.

16. Bydda i wrth fy moddyn dy glywed di'n dweud beth sy'n iawn.

17. Paid cenfigennu wrth y rhai sy'n pechu –bydd di'n ffyddlon i Dduw bob amser.

18. Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd,a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.

19. Gwranda, fy mab, a bydd ddoeth;penderfyna ddilyn y ffordd iawn.

20. Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed,ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd.

21. Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.

22. Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd;a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.

23. Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng,doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!

24. Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawnbydd ei dad mor hapus;mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.

25. Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!

Diarhebion 23