Diarhebion 20:22-30 beibl.net 2015 (BNET)

22. Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!”Disgwyl i'r ARGLWYDD achub dy gam di.

23. Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD;dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda.

24. Yr ARGLWYDD sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd;sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen?

25. Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll,a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud.

26. Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da,ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw.

27. Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD,yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon.

28. Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin;a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd.

29. Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc,ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed.

30. Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg,ac yn delio gyda'r person y tu mewn.

Diarhebion 20