Diarhebion 20:16-23 beibl.net 2015 (BNET)

16. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun;cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr.

17. Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus,ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.

18. Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo;ewch i ryfel gyda strategaeth glir.

19. Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach;paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod.

20. Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam,bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew.

21. Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd,fydd dim bendith yn y diwedd.

22. Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!”Disgwyl i'r ARGLWYDD achub dy gam di.

23. Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD;dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda.

Diarhebion 20