Diarhebion 20:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwynyn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio.

12. Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld –yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy.

13. Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd;cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta.

14. Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,”ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen.

15. Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd;mae geiriau doeth fel gem werthfawr.

16. Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun;cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr.

17. Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus,ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.

18. Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo;ewch i ryfel gyda strategaeth glir.

19. Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach;paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod.

Diarhebion 20