11. Mae rhywun call yn rheoli ei dymer;mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu'n ei erbyn.
12. Mae brenin dig fel llew yn rhuo;ond mae ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13. Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad;a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid.
14. Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni,ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth.
15. Mae diogi yn achosi trwmgwsg;bydd y person diog yn llwgu.
16. Mae'r sawl sy'n cadw'r gorchmynion yn cael byw;ond bydd yr un sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.
17. Mae rhoi yn hael i'r tlawd fel benthyg i'r ARGLWYDD;bydd e'n talu'n ôl iddo am fod mor garedig.
18. Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo,ond paid colli dy limpyn yn llwyr.
19. Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris;os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith.
20. Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd,a byddi'n ddoeth yn y diwedd.
21. Mae gan bobl bob math o gynlluniau,ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni.
22. Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person;gwell bod yn dlawd na dweud celwydd.