Diarhebion 18:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysaui gyfarfod pobl bwysig.

17. Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawnnes i rywun ddod a'i groesholi.

18. Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo,ac yn setlo dadl ffyrnig.

19. Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer;a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.

20. Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau;mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.

21. Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth;ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau.

Diarhebion 18