10. Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet;mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.
11. Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth;mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn.
12. Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio;gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd.
13. Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arnoyn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch.
14. Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd;ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario.
15. Mae'r person call am ddysgu mwy;ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth.
16. Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysaui gyfarfod pobl bwysig.