12. Gwell cyfarfod arthes wedi colli ei chenawonna ffŵl yn siarad nonsens.
13. Fydd trafferthion byth yn gadael tŷrhywun sy'n talu drwg am dda.
14. Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae;gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.
15. Dau beth sy'n gas gan yr ARGLWYDD –gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
16. Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb.Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?
17. Mae ffrind yn ffyddlon bob amser;a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.
18. Does dim sens gan rywunsy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.
19. Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion;a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
20. Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
21. Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22. Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
23. Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bachi wyrdroi cyfiawnder.
24. Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth;ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.
25. Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dada dolur calon i'w fam.
26. Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn;byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest.