Diarhebion 16:11-28 beibl.net 2015 (BNET)

11. Mae'r ARGLWYDD eisiau clorian teg;rhaid i bob un o'r pwysau sy'n y gôd fod yn gywir.

12. Mae brenhinoedd yn casáu torcyfraith,am mai cyfiawnder sy'n gwneud gorsedd yn ddiogel.

13. Mae dweud y gwir yn ennill ffafr brenhinoedd;maen nhw'n hoffi pobl onest.

14. Mae gwylltio brenin yn arwain i farwolaethond bydd person doeth yn gallu ei dawelu.

15. Mae gwên ar wyneb y brenin yn arwain i fywyd;mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.

16. Mae dysgu bod yn ddoeth yn llawer gwell nag aur;a chael deall yn well nag arian.

17. Mae ffordd glir o flaen yr un sy'n osgoi drygioni;ac mae'r person sy'n gwylio ble mae'n mynd yn saff.

18. Mae balchder yn dod o flaen dinistr,a brolio cyn baglu.

19. Mae'n well bod yn ostyngedig gyda'r anghenusna rhannu ysbail gyda'r balch.

20. Mae'r un sy'n gwrando ar neges Duw yn llwyddo;a'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn hapus.

21. Mae'r person doeth yn cael ei gyfri'n gall;ac mae geiriau caredig yn helpu rhywun i ddysgu.

22. Mae synnwyr cyffredin fel ffynnon sy'n rhoi bywyd i rywun,ond mae ffyliaid yn talu'r pris am eu ffolineb.

23. Mae person doeth yn meddwl cyn siarad;mae ei eiriau yn dwyn perswâd.

24. Mae geiriau caredig fel diliau mêl,yn felys eu blas ac yn iach i'r corff.

25. Mae yna ffordd o fyw sy'n edrych yn iawn i bobl,ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.

26. Mae'r angen am fwyd yn gwneud i rywun weithio'n galed,a bol gwag yn ei yrru yn ei flaen.

27. Mae dihiryn drwg yn chwilio am helynt,ac mae ei eiriau'n gwneud niwed fel tân.

28. Mae person croes yn achosi cynnen,a'r un sy'n hel clecs yn chwalu ffrindiau.

Diarhebion 16