1. Mae pobl yn gallu gwneud penderfyniadau,ond yr ARGLWYDD sydd a'r gair olaf.
2. Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn,ond mae'r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion.
3. Rho bopeth wnei di yn nwylo'r ARGLWYDD,a bydd dy gynlluniau'n llwyddo.
4. Mae gan yr ARGLWYDD bwrpas i bopeth mae'n ei wneud,hyd yn oed pobl ddrwg ar gyfer dydd dinistr.
5. Mae'n gas gan yr ARGLWYDD bobl falch;fyddan nhw'n sicr ddim yn osgoi cael eu cosbi.
6. Mae caredigrwydd a ffyddlondeb yn cuddio beiau pobl eraill,a dangos parch at yr ARGLWYDD yn troi rhywun oddi wrth ddrwg.