Diarhebion 14:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref,ond mae'r un ffôl yn ei rwygo i lawr â'i dwylo ei hun.

2. Mae'r person sy'n byw'n iawn yn parchu'r ARGLWYDD;ond mae'r rhai sy'n twyllo yn ei ddirmygu.

3. Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn,ond mae geiriau'r doeth yn ei amddiffyn.

4. Heb ychen, mae'r cafn bwydo yn wag;mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr.

5. Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd;Ond mae gau-dyst yn palu celwyddau.

6. Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael;ond mae person deallus yn dysgu'n rhwydd.

7. Cadw draw o gwmni person ffôl,achos wnei di ddysgu dim ganddo.

8. Mae person call yn gwybod ble mae e'n mynd,ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb.

Diarhebion 14