Diarhebion 10:2-20 beibl.net 2015 (BNET)

2. Dydy ennill ffortiwn trwy dwyll o ddim lles,ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol.

3. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu,Ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau.

4. Mae diogi yn arwain i dlodi,ond gwaith caled yn ennill cyfoeth.

5. Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall,ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd.

6. Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn,ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.

7. Mae'n fendith cofio am rywun cyfiawn,ond bydd enw'r drwg yn pydru.

8. Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor,ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio.

9. Mae'r un sy'n byw yn onest yn byw'n ddibryder,Ond bydd y gwir yn dod i'r golwg am yr un sy'n twyllo.

10. Mae'r un sy'n wincio o hyd yn creu helynt;ond mae'r sawl sy'n ceryddu'n agored yn dod â heddwch.

11. Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.

12. Mae casineb yn codi twrw,ond mae cariad yn cuddio pob bai.

13. Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth,ond gwialen sydd ei angen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin.

14. Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth;ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos.

15. Mae holl eiddo'r cyfoethog fel caer ddiogel;ond tlodi'r tlawd yn ddinistr.

16. Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd;ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg.

17. Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd,ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn.

18. Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo,a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl.

19. Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun;mae'r person call yn brathu ei dafod.

20. Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr,ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim.

Diarhebion 10