13. Wedyn bydd pobl yn clywed beth ddigwyddodd ac yn dychryn, a fydd neb yn meiddio gwrthryfela felly eto.
14. “Ar ôl i chi goncro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi, a setlo i lawr i fyw yno, byddwch yn penderfynu eich bod eisiau brenin yr un fath â'r gwledydd o'ch cwmpas chi.
15. Dim ond yr un mae'r ARGLWYDD yn ei ddewis sydd i fod yn frenin. A rhaid iddo fod yn un o bobl Israel – peidiwch dewis rhywun o'r tu allan, sydd ddim yn Israeliad.
16. Rhaid iddo beidio casglu lot o geffylau rhyfel iddo'i hun, a gadael i bobl fynd i'r Aifft i nôl rhai. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio mynd yn ôl yno.
17. Rhaid iddo beidio cymryd lot o wragedd iddo'i hun, rhag iddyn nhw ei demtio i droi cefn arna i. A rhaid iddo beidio hel cyfoeth iddo'i hun – arian ac aur.