3. “Peidiwch bwyta unrhyw beth sy'n ffiaidd.
4. Dyma'r anifeiliaid sy'n iawn i'w bwyta: bustach, dafad, gafr,
5. hydd, gasél, carw, gafr wyllt, orycs, antelop, a'r ddafad fynydd.
6. “Gallwch fwyta unrhyw anifail sydd â charn fforchog ac sy'n cnoi cil.
7. Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.)
8. A peidiwch bwyta cig moch (Er fod gan fochyn garn fforchog, dydy e ddim yn cnoi cil. Peidiwch hyd yn oed cyffwrdd mochyn sydd wedi marw!)
9. “Gallwch fwyta unrhyw greaduriaid sy'n byw yn y dŵr sydd ag esgyll a cennau arnyn nhw,
10. ond dim byd sydd heb esgyll a cennau – mae'r rheiny i'w hystyried yn aflan.
11. “Gallwch fwyta unrhyw aderyn sy'n lân yn seremonïol.