8. Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw).
9. Roedden nhw'n canu cân newydd:“Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôlac i dorri y seliau,am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth,ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed –pobl o bob llwyth ac iaith,hil a chenedl.
10. Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhwa'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw.Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”
11. Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol,