1. Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi ei selio â saith sêl.
2. Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?”
3. Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen.
4. Dyma fi'n dechrau beichio crïo am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a'i darllen.
5. Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grïo! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, disgynnydd y Brenin Dafydd, wedi ennill y frwydr. Mae e'n gallu torri'r saith sêl ac agor y sgrôl.”