12. Wedyn dyma nhw'n clywed llais pwerus o'r nefoedd yn dweud wrthyn nhw, “Dewch i fyny yma.” A dyma gwmwl yn eu codi nhw i fyny i'r nefoedd, tra roedd eu gelynion yn sefyll yn edrych ar y peth yn digwydd.
13. Y funud honno buodd daeargryn mawr a chafodd un rhan o ddeg o'r ddinas ei dinistrio. Cafodd saith mil o bobl eu lladd gan y daeargryn. Roedd pawb oedd yn dal yn fyw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n dechrau clodfori Duw'r nefoedd mewn panig.
14. Mae'r ail drychineb wedi digwydd; ond edrychwch mae trydydd ar fin dod.
15. Dyma'r seithfed angel yn canu utgorn, ac roedd lleisiau uchel yn y nefoedd yn dweud:“Mae teyrnas y bydwedi dod yn deyrnas ein Harglwydd a'i Feseia,a bydd yn teyrnasu am byth bythoedd.”
16. A dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol, oedd yn eistedd ar eu gorseddau o flaen Duw, yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw,
17. gan ddweud:“Diolch i ti, Arglwydd Dduw Hollalluog,yr Un sydd ac oedd,am gymryd yr awdurdod sydd gen tia dechrau teyrnasu.