Daniel 7:14-22 beibl.net 2015 (BNET)

14. A derbyniodd awdurdod, anrhydedd a grym.Roedd rhaid i bawb, o bob gwlad ac iaith ei anrhydeddu.Mae ei awdurdod yn dragwyddol – fydd e byth yn dod i ben.Fydd ei deyrnasiad byth yn cael ei dinistrio.

15. “Roeddwn i, Daniel, wedi cynhyrfu'r tu mewn. Roedd y gweledigaethau wedi fy nychryn i.

16. Dyma fi'n mynd at un o'r rhai oedd yn sefyll yno, a gofyn beth oedd ystyr y cwbl. A dyma fe'n esbonio'r freuddwyd i mi.

17. “‘Mae'r pedwar creadur mawr yn cynrychioli pedwar brenin daearol fydd yn teyrnasu.

18. Ond yn y diwedd bydd pobl sanctaidd y Duw Goruchaf yn cael teyrnasu – byddan nhw'n teyrnasu am byth!’

19. “Ond wedyn roeddwn i eisiau gwybod mwy am y pedwerydd creadur, yr un oedd yn hollol wahanol i'r lleill. Roedd hwnnw'n wirioneddol ddychrynllyd gyda'i ddannedd haearn a'i grafangau pres. Roedd yn llarpio a chnoi, a sathru dan draed bopeth oedd yn dal i sefyll.

20. Roeddwn i hefyd eisiau gwybod beth oedd y deg corn ar ei ben, a'r corn bach gododd wedyn a gwneud i dri o'r lleill syrthio. Dyma'r corn oedd gyda llygaid, a cheg oedd yn brolio pethau mawr. Roedd y corn yma'n edrych yn gryfach na'r lleill.

21. Roeddwn i'n gweld y corn yma yn brwydro yn erbyn pobl sanctaidd Duw ac yn eu trechu nhw.

22. Dyna oedd yn digwydd hyd nes i'r Un Hynafol ddod a barnu o blaid pobl sanctaidd y Duw Goruchaf. A dyma nhw wedyn yn cael teyrnasu.

Daniel 7