Daniel 6:16-25 beibl.net 2015 (BNET)

16. Felly dyma'r brenin yn gorchymyn dod â Daniel ato, a'i fod i gael ei daflu i ffau'r llewod. Ond meddai'r brenin wrth Daniel, “Bydd dy Dduw, yr un rwyt ti'n ei addoli mor ffyddlon, yn dy achub di.”

17. Cafodd carreg fawr ei rhoi dros geg y ffau, a dyma'r brenin yn gosod ei sêl arni gyda'i fodrwy, a'i uchel-swyddogion yr un fath, fel bod dim modd newid tynged Daniel.

18. Yna dyma'r brenin yn mynd yn ôl i'w balas. Wnaeth e fwyta dim byd y noson honno. Gwrthododd gael ei ddifyrru, ac roedd yn methu'n lân a cysgu drwy'r nos.

19. Pan oedd hi'n dechrau gwawrio'r bore wedyn dyma'r brenin yn brysio yn ôl at ffau'r llewod,

20. ac wrth agosáu at y ffau dyma fe'n galw ar Daniel mewn llais pryderus, “Daniel! Gwas y Duw byw. Ydy'r Duw wyt ti'n ei addoli mor ffyddlon wedi gallu dy achub di rhag y llewod?”

21. A dyma Daniel yn ateb, “O frenin! Boed i chi fyw am byth!

22. Ydy, mae fy Nuw wedi anfon ei angel i gau cegau'r llewod, a dŷn nhw ddim wedi mrifo i o gwbl. Achos roeddwn i'n ddieuog yng ngolwg Duw – ac yn eich golwg chi hefyd, eich mawrhydi. Wnes i ddim drwg i chi.”

23. Roedd y brenin wrth ei fodd, a dyma fe'n gorchymyn codi Daniel allan o'r ffau. Dyma nhw'n gwneud hynny, a doedd e ddim mymryn gwaeth, am ei fod wedi trystio'i Dduw.

24. Wedyn dyma'r brenin yn gorchymyn fod y dynion oedd wedi ymosod mor giaidd ar Daniel yn cael eu harestio, a'i taflu i ffau'r llewod – a'u gwragedd a'u plant gyda nhw. Cyn iddyn nhw gyrraedd gwaelod y ffau roedd y llewod arnyn nhw ac wedi eu rhwygo nhw'n ddarnau.

25. Dyma'r brenin Dareius yn ysgrifennu at y bobl i gyd, o bob gwlad ac iaith – pawb drwy'r byd i gyd: “Heddwch a llwyddiant i chi i gyd!

Daniel 6