3. Felly dyma nhw'n dod â'r llestri aur ac arian oedd wedi eu cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma'r brenin a'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon yn yfed ohonyn nhw.
4. Wrth yfed y gwin roedden nhw'n canmol eu duwiau – eilun-dduwiau wedi eu gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg.
5. Yna'n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i'w gweld yng ngolau'r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu.
6. Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau'n wan a'i liniau'n crynu.
7. Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a'r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw “Bydd pwy bynnag sy'n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae'n ei olygu yn cael ei anrhydeddu – bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”
8. Felly dyma'r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr.
9. Erbyn hyn roedd y brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu'n lân.
10. Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a'i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i'r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna'n welw.