21. yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a'r anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani, a'r adar yn nythu yn ei brigau –
22. chi ydy'r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi'n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae'ch awdurdod chi dros y byd i gyd.
23. Ond wedyn dyma chi'n gweld angel yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a'i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o'i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion am amser hir.’
24. Dyma ystyr y freuddwyd, eich mawrhydi: Mae'r Duw Goruchaf wedi penderfynu mai dyma sy'n mynd i ddigwydd i'm meistr, y brenin.
25. Byddwch chi'n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion. Byddwch chi'n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.
26. Ond fel y boncyff a'r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi'n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi'n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli'r cwbl.
27. Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.”
28. Ond digwyddodd y cwbl i Nebwchadnesar.
29. Flwyddyn yn ddiweddarach pan oedd yn cerdded ar do ei balas brenhinol yn Babilon,
30. dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu'r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.”
31. Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o'r nefoedd yn dweud: “Dyma sy'n cael ei ddweud wrthot ti, y brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi ei chymryd oddi arnat ti!
32. Byddi'n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.”