2. Dyma fe'n galw'r swynwyr, y dewiniaid, y consurwyr a'r dynion doeth at ei gilydd i esbonio'r freuddwyd iddo. Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen y brenin.
3. A dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Dw i wedi cael breuddwyd, a dw i eisiau gwybod beth ydy'r ystyr.”
4. A dyma'r dynion doeth yn ateb [yn Aramaeg], “O frenin! Boed i chi fyw am byth! Dwedwch beth oedd y freuddwyd wrth eich gweision, a gwnawn ni ddweud beth mae'n ei olygu.”
5. “Na,” meddai'r brenin, “yn bendant ddim. Dw i wedi penderfynu fod rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae'n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi'n cael eu rhwygo'n ddarnau, a'ch cartrefi chi'n cael eu troi'n domen sbwriel!
6. Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae'n ei olygu bydda i'n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae'n ei olygu!”
7. Ond dyma nhw'n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae'n ei olygu.”
8. “Dw i'n deall eich gêm chi,” meddai'r brenin. “Dych chi'n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi'n chwarae am amser.
9. Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.”
10. A dyma'r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae'r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i'w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth.