Daniel 11:27-32 beibl.net 2015 (BNET)

27. Bydd y ddau frenin yn cyfarfod wrth y bwrdd i drafod telerau heddwch. Ond bwriad y ddau fel ei gilydd fydd gwneud drwg i'r llall, a fyddan nhw'n gwneud dim ond dweud celwydd wrth ei gilydd. Ond fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth am fod yr amser yn dod pan fydd y cwbl yn dod i ben.

28. Bydd brenin y gogledd yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun gyda llwythi o gyfoeth. Ar ei ffordd yn ôl, ei fwriad fydd delio gyda phobl yr ymrwymiad sanctaidd. Ar ôl gwneud hynny bydd yn mynd adre.

29. “Y flwyddyn wedyn bydd yn ymosod ar y de eto, ond fydd pethau ddim yr un fath y tro yma.

30. Bydd llongau rhyfel o'r gorllewin yn dod yn ei erbyn, a bydd yn colli ei hyder. Bydd yn troi yn ôl, ac ar ei ffordd adre yn dangos ei rwystredigaeth drwy gam-drin pobl yr ymrwymiad sanctaidd. Bydd yn gwobrwyo'r rhai sy'n troi cefn ar eu crefydd.

31. Bydd ei fyddin yn mynd i mewn i'r deml ac yn ei halogi. Bydd yn stopio'r aberthu dyddiol, ac yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio yno.

32. Bydd yn defnyddio gweniaith i lygru'r rhai sydd wedi bod yn anffyddlon i'r ymrwymiad. Ond bydd y bobl sy'n nabod Duw yn sefyll yn gryf yn ei erbyn.

Daniel 11