1. Felly, am eich bod wedi cael eich codi i fywyd newydd gyda'r Meseia, ceisiwch beth sy'n y nefoedd, lle mae'r Meseia yn eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw.
2. Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol.
3. Buoch farw, ac mae'r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi ei guddio'n saff gyda'r Meseia yn Nuw.
4. Y Meseia ydy'ch bywyd chi. Pan fydd e'n dod i'r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e.
5. Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!
6. Pethau felly sy'n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo.
7. Dyna sut roeddech chi'n ymddwyn o'r blaen.
8. Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus.
9. Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio'r hen fywyd a'i ffyrdd
10. ac wedi gwisgo'r bywyd newydd. Dyma'r ddynoliaeth newydd sy'n cael ei newid i fod yr un fath â'r Crëwr ei hun, ac sy'n dod i nabod Duw yn llawn.