Caniad Solomon 6:10-13 beibl.net 2015 (BNET)

10. “Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr?Pwy ydy hi? – mor hardd â'r lleuad llawn,mor bur â phelydrau'r haul.Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”

11. Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau,i weld y tyfiant yn y dyffryn;i weld a oedd y winwydden wedi blaguro,a'r pomgranadau'n blodeuo.

12. Roeddwn wedi cynhyrfu'n lân.Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi,o ferch fy mhobl fonheddig.

13. Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith!Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti.Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith,fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?

Caniad Solomon 6