Caniad Solomon 5:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad –i gasglu fy myrr a'm perlysiau,i flasu y diliau a'r mêl,ac i yfed y gwin a'r llaeth.Mwynhewch y wledd gariadon!Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!

2. Roeddwn yn gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro.Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo –“Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd,fy nghariad, fy ngholomen berffaith.Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith,a'm pen yn llaith gan niwl y nos.”

3. “Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i.Ti am i mi wisgo eto wyt ti?A dw i wedi golchi fy nhraed.Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”

4. Yna gwthiodd ei law i agor y drws,a teimlais wefr yn mynd trwyddo i.

Caniad Solomon 5