Caniad Solomon 4:4-9 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae dy wddf fel tŵr Dafydda'r rhesi o gerrig o'i gwmpas;mil o darianau yn hongian arno,fel arfau milwyr arwrol.

5. Mae dy fronnau yn berffaithfel dwy gasél ifanc, efeilliaidyn pori ymysg y lilïau.

6. Rhaid i mi fynd a dringomynydd myrr a bryn thus,ac aros yno hyd nes iddi wawrioac i gysgodion y nos ddiflannu.

7. Mae popeth amdanat mor hardd f'anwylyd!Ti'n berffaith!

8. Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad,tyrd gyda mi o fryniau Libanus.Tyrd i lawr o gopa Amana,o ben Senir, sef copa Hermon;Tyrd i lawr o ffeuau'r llewoda lloches y llewpard.

9. Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad.Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad,un em yn dy gadwyn.

Caniad Solomon 4