Caniad Solomon 2:6-11 beibl.net 2015 (BNET)

6. Mae ei law chwith dan fy mhen,a'i law dde yn fy anwesu.

7. Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnocho flaen y gasél a'r ewig gwyllt:Peidiwch trïo cyffroi cariad rhywiolnes mae'n barod.

8. Ust! Fy nghariad sydd yna!Edrychwch! Dyma fe'n dod,yn llamu dros y mynyddoeddac yn neidio dros y bryniau

9. fel gasél neu garw ifanc.Mae yma! Yr ochr arall i'r wal!Mae'n edrych drwy'r ffenestac yn sbecian drwy'r ddellt.

10. Mae'n galw arna i:“F'anwylyd, tyrd!Gad i ni fynd, fy un hardd.

11. Edrych! Mae'r gaeaf drosodd;mae'r glaw trwm wedi hen fynd.

Caniad Solomon 2