Barnwyr 9:16-17-31 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Gofynnwch i arweinwyr Sichem, ‘Ydych chi eisiau saith deg o feibion Jerwb-baal yn llywodraethu arnoch chi, neu dim ond un dyn? Cofiwch mod i'n perthyn yn agos i chi.’”

3. Felly dyma'i berthnasau yn mynd i weld arweinwyr Sichem ar ei ran. Roedden nhw'n tueddu i'w gefnogi, am ei fod yn perthyn yn agos iddyn nhw.

4. Dyma nhw'n rhoi saith deg darn arian iddo o deml Baal-berith. A dyma Abimelech yn defnyddio'r arian i gyflogi criw o rapsgaliwns gwyllt i'w ddilyn.

5. Dyma fe'n mynd i gartref ei dad yn Offra, a lladd ei frodyr, sef saith deg mab Gideon, ar yr un garreg. Dim ond Jotham, mab ifancaf Gideon, lwyddodd i ddianc drwy guddio.

6. Yna dyma arweinwyr Sichem a Beth-milo yn dod at ei gilydd at y dderwen sydd wrth y golofn yn Sichem, i wneud Abimelech yn frenin.

7. Pan glywodd Jotham am hyn dyma fe'n dringo i gopa Mynydd Gerisim. A dyma fe'n gweiddi'n uchel ar y bobl islaw,“Gwrandwch arna i, arweinwyr Sichem –os ydych chi eisiau i Dduw wrando arnoch chi.

8. Aeth y coed allan i ddewis brenin.A dyma nhw'n dweud wrth y goeden olewydd,‘Bydd yn frenin arnon ni.’

9. Ond atebodd y goeden olewydd,‘Ydw i'n mynd i stopio cynhyrchu olew,sy'n bendithio Duw a dynion,er mwyn chwifio'n uwch na'r coed eraill?’

16-17. “Roedd fy nhad i wedi ymladd drosoch chi a mentro'i fywyd i'ch achub chi o afael y Midianiaid. Ai dyma sut ydych chi'n diolch iddo? – trwy wneud Abimelech yn frenin! Ydych chi wedi ymddwyn yn anrhydeddus? Ydych chi wedi bod yn deg â Gideon a'i deulu? Naddo!

18. Dych chi wedi ei fradychu. Dych chi wedi lladd ei feibion – saith deg ohonyn nhw – ar un garreg! A dyma chi, yn gwneud Abimelech, mab ei gaethferch, yn frenin, dim ond am ei fod yn perthyn i chi!

19. Os ydych chi wedi trin Gideon a'i deulu yn anrhydeddus, boed i Abimelech eich gwneud chi'n hapus, ac i chi ei wneud e'n hapus.

20. Ond os ddim, boed i Abimelech gynnau tân fydd yn eich llosgi chi arweinwyr Sichem a Beth-milo! A boed i arweinwyr Sichem a Beth-milo gynnau tân fydd yn dinistrio Abimelech!”

21. Yna dyma Jotham yn dianc i dref Beër, i gadw o ffordd Abimelech, ei hanner brawd.

22. Pan oedd Abimelech wedi rheoli Israel am dair blynedd,

23. anfonodd Duw ysbryd i godi helynt rhwng Abimelech ac arweinwyr Sichem. A dyma arweinwyr Sichem yn gwrthryfela yn ei erbyn.

24. Gwnaeth Duw hyn i'w gosbi e ac arweinwyr Sichem am lofruddio meibion Gideon i gyd – saith deg ohonyn nhw!

25. Dyma arweinwyr Sichem yn gosod lladron yn y bryniau, i ymosod ar bawb oedd yn teithio'r ffordd honno. Ond dyma Abimelech yn clywed am y peth.

26. Bryd hynny, dyma Gaal fab Efed yn symud i fyw i Sichem gyda'i berthnasau. A dyma arweinwyr Sichem yn troi ato fe i'w hamddiffyn nhw.

27. Pan oedd hi'n adeg y cynhaeaf grawnwin, roedd pobl Sichem wedi bod yn casglu'r grawnwin, eu sathru i gael y sudd ohonyn nhw, ac yna wedi mynd i deml eu Duw i ddathlu a cynnal parti. Roedden nhw'n rhegi Abimelech wrth fwynhau'r gwledda a'r yfed.

28. “Pwy ydy Abimelech?” meddai Gaal fab Efed. “Pam ddylen ni, bobl Sichem, fod yn weision bach iddo? Mab Gideon ydy e, a Sebwl yn ddirprwy wedi ei benodi ganddo. Un o ddisgynyddion Hamor, tad Sechem, ddylen ni ei wasanaethu. Pam ddylen ni wasanaethu Abimelech?

29. Petawn i'n rheoli pobl Sichem, byddwn i'n cael gwared ag Abimelech! Byddwn i'n dweud wrtho, ‘Gwell i ti gael byddin fwy os wyt ti am ddod allan yn ein herbyn ni!’”

30. Pan glywodd Sebwl, llywodraethwr Sichem, beth oedd Gaal wedi ei ddweud, roedd yn wyllt gynddeiriog.

31. Anfonodd negeswyr at Abimelech, oedd yn Arwma, i ddweud, “Gwylia dy hun! Mae Gaal fab Efed a'i frodyr wedi dod i Sichem i godi twrw a chael y dref i wrthryfela yn dy erbyn di.

Barnwyr 9