Barnwyr 3:14-16 beibl.net 2015 (BNET)

14. Buodd pobl Israel yn gaethion i'r brenin Eglon am un deg wyth mlynedd.

15. Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith.Roedd Ehwd i fod i fynd รข trethi pobl Israel i Eglon, brenin Moab.

16. Ond cyn mynd dyma Ehwd yn gwneud cleddyf iddo'i hun. Roedd y cleddyf tua 45 centimetr o hyd, gyda min ar ddwy ochr y llafn. Dyma fe'n strapio'r cleddyf ar ei ochr dde o dan ei ddillad.

Barnwyr 3