15. Roedd dau ddeg chwech mil o filwyr arfog o lwyth Benjamin wedi ymuno gyda'r saith mil o filwyr profiadol oedd yn Gibea ei hun.
16. Roedd y fyddin yn cynnwys saith gant o ddynion llaw chwith oedd yn gallu taro targed trwch blewyn gyda carreg o ffon dafl.
17. Roedd gan weddill Israel bedwar can mil o filwyr arfog profiadol.
18. Cyn y frwydr roedden nhw wedi bod yn Bethel i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?”A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”
19. Yn gynnar y bore wedyn, dyma byddin Israel yn paratoi i ymosod ar Gibea.
20. Dyma nhw'n mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin, a sefyll mewn trefn yn barod i ymosod ar Gibea.
21. Ond dyma filwyr llwyth Benjamin yn dod allan o Gibea, a lladd dau ddeg dau mil o filwyr Israel yn y frwydr y diwrnod hwnnw.
22. Ond wnaeth byddin Israel ddim digalonni. Dyma nhw'n mynd allan eto, ac yn sefyll mewn trefn yn yr un lle â'r diwrnod cynt.
23. Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crïo o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?”Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!”
24. Felly dyma fyddin Israel yn mynd allan i ymladd yn erbyn llwyth Benjamin yr ail ddiwrnod.
25. Ond dyma filwyr Benjamin yn dod allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel.
26. Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crïo o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Dyma nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
27-28. Dyna lle roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar y pryd, gyda Phineas (mab Eleasar ac ŵyr i Aaron) yn gwasanaethu fel offeiriad. A dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu roi'r gorau iddi?”A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw! Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn eich dwylo chi.”