Barnwyr 13:5-10 beibl.net 2015 (BNET)

5. Wir i ti, rwyt ti'n mynd i feichiogi a cael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru'n Nasaread i'r ARGLWYDD o'r eiliad mae'n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.”

6. A dyma hi'n mynd i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw.

7. Dwedodd wrtho i, ‘Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog a byddi'n cael mab. Felly, paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, a paid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Bydd y plentyn wedi ei gysegru yn Nasaread i Dduw o'i eni i'w farw.’”

8. Yna dyma Manoa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “Meistr, plîs gad i'r dyn wnest ti ei anfon ddod aton ni eto, iddo ddysgu i ni beth i'w wneud gyda'r bachgen fydd yn cael ei eni.”

9. A dyma Duw yn ateb ei weddi. Dyma'r angel yn dod at wraig Manoa eto. Roedd hi'n eistedd yn y cae ar ei phen ei hun – doedd Manoa ei gŵr ddim gyda hi.

10. A dyma hi'n rhedeg ar unwaith i ddweud wrtho, “Tyrd, mae e wedi dod yn ôl! Y dyn ddaeth ata i y diwrnod o'r blaen. Mae e yma!”

Barnwyr 13